Partneriaeth
Mae Partneriaeth Croeso i’n Coed wedi bod yn gweithredu yn ei ffurf bresennol ers 2014. Datblygodd o syniadau a mentrau o’r gweithgarwch a oedd wedi bod yn digwydd yn yr ardal o tua 2009. Mae ein Partneriaeth wedi dod yn gyfuniad o fusnesau sector preifat lleol a thirfeddianwyr, llywodraeth ac asiantaethau statudol, sefydliadau’r sector gwirfoddol, grwpiau cymunedol lleol ac unigolion sy’n cynnig eu hamser a’u sgiliau. Yn 2018 dyfarnwyd y ‘Gwobr Gymunedol Gynaliadwy’ i’r Bartneriaeth gan sefydliad Cynnal Cymru Cynnal Cymru am ei waith yn y Rhondda Fawr Uchaf. Mae Partneriaeth Croeso i’n Coed yn parhau i ddatblygu ffyrdd newydd o gysylltu pobl a lle yn y Rhondda. Rheoli adnoddau lleol a mannau lleol yn gynaliadwy ar gyfer iechyd, lles, hamdden, hyfforddiant a chanlyniadau cyflogaeth. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion i oresgyn problemau cymdeithasol cysylltiedig y gellir eu crynhoi fel:
Iechyd a Lles – gan gynnwys anghydraddoldebau o ran mynediad i fannau gwyrdd o ansawdd da, iechyd meddwl gwael ac anweithgarwch corfforol.
Sgiliau a Swyddi – sgiliau isel, cyflogau isel ac ychydig o gyfleoedd cyflogaeth. Mae llawer o’r swyddi presennol yn isafswm cyflog, yn rhan-amser.
Tlodi – diffyg mynediad at adnoddau a gwasanaethau, a mynd i’r afael â thlodi tanwydd.

